Sumbeam 350Hp National Motor Museum

National Motor Museum takes Sunbeam 350hp Blue Bird to Wales for World Land Speed Record centenary

03 July 2025

[Datganiad yn y Gymraeg yn dilyn - Welsh version follows]

The National Motor Museum is taking the iconic Sunbeam 350hp vehicle to Pendine in Carmarthenshire, Wales to celebrate the centenary anniversary of its World Land Speed Record in 1925.

The car christened ‘Blue Bird’ by its driver Sir Malcolm Campbell MBE, was the first to exceed 150 mph (240 km/h). The World Land Speed Record of 150.766 mph (242.628 km/h) was set at Pendine beach, Carmarthenshire, Wales on the 21 July 1925*. Now part of the vehicle collection at the National Motor Museum at Beaulieu, the Museum is celebrating this feat of British engineering and the centenary of the historic event.

The Sunbeam will be on display outside the Museum of Land Speed at Pendine from 10am on the 21 July 2025.  National Motor Museum engineers will aim to take it on to the beach for a static photo opportunity and start up the record-breaker at Pendine to mark the 100th anniversary, before putting it on show again outside the Museum until 5pm**.

National Motor Museum Trust Chief Executive Jon Murden said: “We are excited to honour such a landmark World Land Speed Record anniversary with this and other events this year, which will both celebrate its importance in motoring history and provide more opportunities to see Blue Bird.”

The Sunbeam 350hp will have been to the Heveningham Concours and to the Bluebird Restaurant in Chelsea before its appearance in Pendine, and will return to Beaulieu where it is on permanent display with other Land Speed Record breakers Sunbeam 1000hp, Golden Arrow and the Bluebird CN7.  The Museum is also home to an Icons of Formula 1 display this summer making it the venue to see brilliant examples of sporting and technical excellence in pursuit of the thrill of speed.

This isn’t the first time the Sunbeam 350hp has returned to Pendine. It visited the famous stretch of sands in 2015 following completion of the painstaking rebuild of the 1920 Sunbeam’s complex V12 engine enabling supporters to hear it roar again. 

For the 2025 celebration a section on the National Motor Museum website is dedicated to the history on the Sunbeam 350hp - https://nationalmotormuseum.org.uk/sunbeam-350hp-blue-bird/ 
Specially commissioned limited-edition commemorative merchandise is also available from the National Motor Museum providing opportunities to help the Museum fund similar vehicle restoration projects in the future as well as being an attractive collectable.


*The World Land Speed Record of 150.766 mph (242.628 km/h) was officially set in the Sunbeam 350hp at Pendine beach, Carmarthenshire, Wales on the 21 July 1925. Although the best run over the mile had reached 152.833 mph (245.961 km/h).
**The 'Blue Bird' will be on display outside the Museum of Land Speed from 10am on Monday, July 21, before moving onto the beach for photographs between 11am and 12 noon.

For Britian Lsr

Amgueddfa “National Motor Museum” yn mynd â'r cerbyd eiconig Sunbeam 350hp Blue Bird i Gymru ar gyfer canmlwyddiant Record Cyflymder Tir y Byd

Mae Amgueddfa Foduron Genedlaethol neu y ‘National Motor Museum’ yn mynd â'r cerbyd eiconig Sunbeam 350hp i Bentywyn yn Sir Gaerfyrddin i ddathlu canmlwyddiant ei Record Cyflymder Tir y Byd ym 1925.

Bedyddiwyd y modur yn 'Blue Bird' gan ei yrrwr Syr Malcolm Campbell MBE, a hwn oedd y car cyntaf i fynd dros 150 mya (240 km/awr). Gosodwyd Record Cyflymder Tir y Byd o 150.766 mya (242.628 km/awr) ar draeth Pentywyn, Sir Gaerfyrddin ar 21 Gorffennaf 1925*. Bellach yn rhan o gasgliad cerbydau Amgueddfa Foduron Genedlaethol Beaulieu, swydd Hampshire mae'r Amgueddfa'n dathlu'r gamp hon o beirianneg Brydeinig a chanmlwyddiant y digwyddiad hanesyddol.

Bydd y Sunbeam ar ddangos y tu allan i Amgueddfa Cyflymder Tir Pentywyn o 10am ar 21 Gorffennaf 2025. Bydd peirianwyr Amgueddfa Foduron Genedlaethol yn ei gymryd i'r traeth am gyfle i dynnu lluniau statig a chychwyn y peiriant i nodi'r 100fed pen-blwydd, cyn ei arddangos eto y tu allan i'r Amgueddfa tan 5pm**.

Dywedodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Amgueddfa Foduron Genedlaethol, Jon Murden: “Rydym yn gyffrous i anrhydeddu pen-blwydd Record Cyflymder Tir y Byd mor nodedig gyda’r diwrnod yma a digwyddiadau eraill eleni, a byddwn yn dathlu ei bwysigrwydd yn hanes moduro a rhoi cyfle i weld Blue Bird yng Nghymru a Lloegr.”

Bydd y Sunbeam 350hp wedi bod i Heveningham ac i Fwyty Bluebird yn Chelsea cyn iddo ymddangos ym Mhentywyn, a bydd yn dychwelyd i Beaulieu lle mae ar ddangos yn barhaol gyda ceir Recordiau Cyflymder Tir eraill fel y Sunbeam 1000hp, y Golden Arrow a'r Bluebird CN7. Mae'r Amgueddfa hefyd yn gartref i arddangosfa ceir Fformiwla 1 yr haf hwn gan ei wneud yn lleoliad i weld enghreifftiau gwych o thechnoleg a cyffro cyflymder.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r Sunbeam 350hp ddychwelyd i Bentywyn. Ymwelodd â'r darn enwog o dywod yn 2015 ar ôl cwblhau'r gwaith ailadeiladu gofalus o injan gymhleth V12 y Sunbeam 1920 gan alluogi pobl i'w glywed yn rhuo eto.

Ar gyfer dathliad 2025 mae adran ar wefan Amgueddfa Foduron Genedlaethol ar hanes y Sunbeam 350hp - https://nationalmotormuseum.org.uk/sunbeam-350hp-blue-bird/

Mae nwyddau coffa rhifyn cyfyngedig a gomisiynwyd yn arbennig hefyd ar gael gan Amgueddfa Foduron Genedlaethol, gan ddarparu cyfleoedd i helpu'r Amgueddfa i ariannu prosiectau adfer cerbydau tebyg yn y dyfodol.

 

*Gosodwyd Record Cyflymder Tir y Byd o 150.766 mya (242.628 km/awr) yn swyddogol yn y Sunbeam 350hp ar draeth Pentywyn, Sir Gaerfyrddin ar 21 Gorffennaf 1925. Er bod y rhediad gorau dros y filltir wedi cyrraedd 152.833 mya (245.961 km/awr).

**Bydd y ‘Blue Bird' i'w weld y tu allan i Amgueddfa Cyflymder Tir o 10am ddydd Llun, Gorffennaf 21, cyn symud i'r traeth i gael lluniau rhwng 11am a 12 hanner dydd.

Panoramic view of the first floor of the National Motor Museum

Subscribe for updates

Get our latest news and events straight to your inbox.